cGenesis 5:24 (LXX)
hGenesis 22:17 (sy'n cyfeirio yn ôl at Genesis 15:5); gw. hefyd Genesis 32:12; Exodus 32:13; Deuteronomium 1:10; 10:22
nGenesis 47:31 (LXX)
pcyfeiriad at Exodus 2:2; 1:22
uBarnwyr 6:11—8:32; Barnwyr 4:6—5:31; Barnwyr 13:2—16:31; Barnwyr 11:1—12:7; 1 Samuel 16:1—1 Brenhinoedd 2:11; 1 Samuel 1:1—25:1

Hebrews 11

Trwy ffydd

1Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld. 2Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw.

3Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd trwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen. a

4Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. b Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni.

5Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.” c Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw. 6Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri.

7Ffydd Noa wnaeth iddo wrando ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi ei rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw. d

8Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd! e 9A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.) f 10Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth.

11Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi ei addo. g 12Felly, o'r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae'n amhosib eu cyfri i gyd – maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr! h

13Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored maipobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw i, 14ac mae'n amlwg fod pobl sy'n siarad felly yn edrych am eu mamwlad. 15A dim y wlad roedden nhw wedi ei gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno. 16Na, roedden nhw'n dyheu am rywle gwell – am wlad nefol. Dyna pam fod gan Dduw ddim cywilydd cael ei alw'n Dduw iddyn nhw, am fod ganddo ddinas yn barod ar eu cyfer nhw.

17Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab! j 18A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” k 19Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly.

20Ffydd Isaac wnaeth iddo fendithio Jacob ac Esau. Roedd ganddo ffydd yn beth roedd Duw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. l

21Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. m

“Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.” n

22A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn. o

23Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud. p

24Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo. 25Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw. 26Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo. 27Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig. 28Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel. q

29Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi. r

30Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded mewn cylch o gwmpas Jericho am saith diwrnod, a dyma'r waliau'n syrthio. s

31Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw. t

32Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi. u 33Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl, v 34tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi. 35Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell! w 36Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu. x 37Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner;
11:37 llifio yn eu hanner: Mae rhai llawysgrifau yn dweud profi.
a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin. z
38Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.

39Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi ei addo. 40Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw – rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.

Copyright information for CYM